Sefydlwyd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad ym mis Medi 2019 i ymchwilio i argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad o ran maint y Cynulliad a sut y caiff Aelodau eu hethol. Rydym yn gofyn am dystiolaeth ysgrifenedig i lywio ein hymchwiliad i ethol Cynulliad mwy amrywiol.

Mae'r cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn yn ymchwilio i faterion sy'n ymwneud â pha mor amrywiol a chynrychioliadol yw’r Cynulliad a’r ymgeiswyr sy'n sefyll etholiad.

Gallwch ddod o hyd i'r dystiolaeth yr ydym eisoes wedi'i chlywed am y materion hyn ar ein gwefan. Mae rhagor o wybodaeth am y Cynulliad a'i Aelodau ar gael ar wefan y Cynulliad.

Sut i ymateb i’r ymgynghoriad hwn

Mae croeso ichi ateb rhai o’r cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn, neu'r cwestiynau i gyd. Bydd eich atebion o gymorth i lywio ein syniadau ar y materion hyn.

Hoffem glywed gan gymaint o bobl â phosibl ynglŷn â’u barn ar y materion yn yr ymgynghoriad hwn - os ydych yn adnabod unrhyw un a allai fod â diddordeb mewn ymateb, rhowch wybod iddo.

Gallwch ymateb i'r ymgynghoriad drwy anfon neges e-bost at SeneddDiwygio@Cynulliad.Cymru. Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 22 Ebrill 2020.

Darparu tystiolaeth ysgrifenedig

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Os na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno’n ddwyieithog, byddwn yn eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaeth statudol.

Gweler y canllawiau i dystion sy'n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgorau.

Datgelu gwybodaeth

Gofynnwn i chi sicrhau eich bod wedi ystyried yn ofalus bolisi'r Cynulliad ar ddatgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.

Termau a ddefnyddir yn yr ymgynghoriad hwn

-      Amrywiol / amrywiaeth: pan fyddwn yn defnyddio’r geiriau hyn rydym yn golygu'r naw nodwedd warchodedig a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 (oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol) ac amrywiaeth mewn ystyr ehangach, er enghraifft cefndir economaidd-gymdeithasol pobl, niwro-amrywiaeth a chefndir proffesiynol.

-      Tangynrychioli: mae rhai grwpiau o bobl ‘sydd wedi’u tangynrychioli' yn y Cynulliad. Mae hyn yn golygu bod cyfran y bobl ledled Cymru o'r grŵp hwnnw yn uwch na chyfran yr Aelodau Cynulliad ohono. Er enghraifft, mae ychydig dros hanner poblogaeth Cymru yn fenywod, ond mae llai na hanner Aelodau presennol y Cynulliad yn fenywod.


 

Amrywiaeth y Cynulliad

Cefndir

Dywedodd y Panel Arbenigol y byddai mwy o amrywiaeth yn gwella gweithrediad y Cynulliad a'r ffordd y mae'n cynrychioli pobl Cymru. Mae pobl wedi dweud wrth y Pwyllgor y dylai deddfwrfeydd fod yn amrywiol oherwydd:

§    Mae'n decach, gan fod pobl o ystod o gymunedau a chefndiroedd amrywiol yn gallu cymryd rhan yn y broses wleidyddol.

§    Mae mwy o amrywiaeth ymhlith y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn arwain at wneud penderfyniadau gwell.

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod gan y Cynulliad record dda o ran cydbwysedd rhwng y rhywiau ymhlith Aelodau'r Cynulliad, ond ei fod yn llai amrywiol mewn ffyrdd eraill.

Mae rhai pobl wedi awgrymu y dylid cyflwyno mesurau i gynyddu amrywiaeth y Cynulliad. Mae awgrymiadau wedi cynnwys cyflwyno cwotâu, caniatáu i Aelodau rannu swyddi, neu ddarparu cyllid ychwanegol i helpu pobl o grwpiau a dangynrychiolir i sefyll etholiad.

Cwestiynau

1.       Sut y gall y Cynulliad sicrhau bod barn grwpiau a dangynrychiolir yn cael ei hystyried yn ei waith, er efallai nad oes Aelodau Cynulliad o'r grwpiau hynny?

2.      Beth yw'r prif rwystrau a allai annog rhywun o grŵp sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i beidio â sefyll etholiad i'r Cynulliad?

3.      Beth yw'r pethau pwysicaf y gellid eu gwneud i helpu pobl o grwpiau a dangynrychiolir neu bobl a allai fod yn bryderus ynglŷn â rhoi'r gorau i'w swydd neu eu proffesiwn presennol i sefyll etholiad?

4.      A yw pobl yng Nghymru, gan gynnwys y rheini o grwpiau a dangynrychiolir, yn gwybod digon am y goblygiadau o fod yn Aelod Cynulliad i allu penderfynu a oes ganddynt ddiddordeb mewn sefyll etholiad?


 

Cyhoeddi data am amrywiaeth ymgeiswyr gwleidyddol

Cefndir

Dywedodd y Panel Arbenigol y dylai'r Cynulliad ofyn i Lywodraeth y DU ddod ag adran 106 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i rym mewn perthynas ag etholiadau'r Cynulliad, neu drosglwyddo'r pŵer i wneud hynny i Weinidogion Cymru.

Pe bai'n dod i rym, byddai adran 106 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i bleidiau gwleidyddol roi gwybod am amrywiaeth eu hymgeiswyr ar gyfer etholiadau'r Cynulliad o ran eu nodweddion gwarchodedig. Gellid defnyddio'r pwerau yn adran 106 i'w gwneud yn ofynnol i gyhoeddi rhai o'r nodweddion gwarchodedig canlynol, neu'r cyfan ohonynt: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.

Gellid defnyddio'r pwerau hefyd i nodi pa bleidiau fyddai’n gorfod cyhoeddi data; er enghraifft, efallai mai dim ond pleidiau a fyddai’n cyflwyno ymgeiswyr mewn mwy na nifer benodol o etholaethau neu ranbarthau a fyddai’n gorfod gwneud hynny. Byddai'r wybodaeth yn ddienw cyn ei chyhoeddi, a byddai pobl yn rhydd i wrthod darparu’r wybodaeth os nad oeddent yn dymuno gwneud hynny.

Cwestiynau:

5.      Pe bai'n ofynnol i bleidiau gwleidyddol gasglu data dienw am amrywiaeth eu hymgeiswyr ar gyfer etholiadau’r Cynulliad, a’i gyhoeddi, a fyddai hyn yn eu hannog i ddewis ystod mwy amrywiol o bobl fel ymgeiswyr?

6.      Beth fyddai angen ei wneud i sicrhau bod data ymgeiswyr yn cael ei gasglu a'i gyhoeddi'n gywir ac yn gyfrifol?

Rhannu swyddi Aelodau'r Cynulliad

Cefndir

Argymhellodd y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad y dylid newid y gyfraith etholiadol, gweithdrefnau'r Cynulliad a Phenderfyniad y Bwrdd Taliadau ar Dâl a Lwfansau Aelodau er mwyn i ymgeiswyr allu sefyll etholiad ar sail trefniadau rhannu swyddi tryloyw.

Dadleuodd y Panel Arbenigol y gallai caniatáu rhannu swyddi ei gwneud yn haws i bobl ag anableddau neu gyfrifoldebau gofalu sefyll etholiad. Gallai hefyd ganiatáu i ddarpar Aelodau gadw eu hymrwymiadau a’u sgiliau proffesiynol drwy weithio'n rhan-amser o fewn trefniant rhannu swydd. Byddai angen i ymgeiswyr a fyddai’n dymuno sefyll fel hyn esbonio’n glir i bleidleiswyr sut y byddai'r trefniant rhannu swydd yn gweithio. Felly, y pleidleiswyr fyddai’n penderfynu’n derfynol a fyddai unrhyw Aelodau a oedd yn dymuno rhannu swydd yn cael eu hethol ai peidio.

Cwestiynau

7.      Pe bai pobl yn cael sefyll etholiad ar sail rhannu swydd, a oes grwpiau neu gymunedau penodol a fyddai fwyaf tebygol o ddewis sefyll etholiad yn y modd hwn?

Cwotâu etholiadol

Cefndir

Argymhellodd y Panel Arbenigol dair system etholiadol y gellid eu defnyddio yng Nghymru:

§    Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy: mae pleidleiswyr yn rhestru ymgeiswyr i gynrychioli etholaeth aml-aelod yn nhrefn eu dewis.

§    Cynrychiolaeth Gyfrannol Rhestr Hyblyg: mae pleidleiswyr yn pleidleisio dros naill ai plaid wleidyddol i gynrychioli etholaeth aml-aelod, neu dros yr ymgeisydd penodol sydd orau ganddynt.

§    Cynrychiolaeth Gyfrannol Aelodau Cymysg (y system etholiadol bresennol): mae pleidleiswyr yn pleidleisio dros ymgeisydd unigol i gynrychioli etholaeth un aelod a thros blaid wleidyddol (neu ymgeisydd rhanbarthol unigol) i gynrychioli eu rhanbarth.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am yr argymhellion a wnaeth y Panel Arbenigol ynghylch system etholiadol y Cynulliad yn adroddiad y Panel: Senedd sy'n Gweithio i Gymru.

Argymhellodd y Panel Arbenigol y dylid integreiddio cwotâu rhywedd ymgeiswyr deddfwriaethol i system etholiadol y Cynulliad, ac y dylai pleidiau orfod sicrhau bod:

§  50 y cant o'u hymgeiswyr ym mhob rhanbarth o dan y system Gyfrannol Aelodau Cymysg, neu bob etholaeth aml-aelod o dan y system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy neu’r system Cynrychiolaeth Gyfrannol Rhestr Hyblyg, yn fenywod a 50 y cant yn ddynion.

§  rhestrau ymgeiswyr ar gyfer pob rhanbarth o dan y system Cynrychiolaeth Gyfrannol Aelodau Cymysg neu ar gyfer pob etholaeth aml-aelod o dan y system Cynrychiolaeth Gyfrannol Rhestr Hyblyg yn cynnwys ymgeiswyr gwrywaidd a benywaidd bob yn ail. Dylai pleidiau sy'n rhoi ymgeiswyr i sefyll mewn mwy nag un rhanbarth / etholaeth aml-aelod geisio cael cydbwysedd o ran faint o'u rhestrau sy'n dechrau gyda menyw a faint sydd â dyn fel yr ymgeisydd cyntaf.

Argymhellodd y Panel y dylid rhoi dulliau ar waith i orfodi neu gymell y pleidiau i gydymffurfio â’r cwotâu. Dywedodd hefyd, os na fyddai mesurau deddfwriaethol yn cael eu mabwysiadu, dylai pleidiau fabwysiadu'r mesurau’n wirfoddol.

Cwestiynau

8.      A ddylid defnyddio cwotâu i gynyddu cynrychiolaeth grwpiau a dangynrychiolir fel pobl ag anableddau neu bobl o leiafrifoedd ethnig? Pa oblygiadau ymarferol y byddai angen eu hystyried?

9.      Pa dystiolaeth sydd ar gael ynglŷn â sut mae pleidleiswyr yn teimlo ynghylch defnyddio cwotâu i annog ymgeiswyr â nodweddion penodol i gael eu hethol?

Materion eraill

Profiadau o wleidyddiaeth plaid

10.  A oes unrhyw rwystrau a allai annog pobl o grwpiau a dangynrychiolir i beidio ag ymuno â phleidiau gwleidyddol neu gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth plaid?

Dulliau o weithio

11.     Pa newidiadau a allai'r Cynulliad eu cyflwyno i'w ffyrdd o weithio i wneud sefyll etholiad yn fwy deniadol i bobl o grwpiau a dangynrychiolir?
Er enghraifft, mae rhai pobl wedi awgrymu y gallai cael cyfyngiadau llym ar amseriad busnes y Cynulliad, galluogi Aelodau i bleidleisio drwy ddirprwy, neu ganiatáu i Aelodau'r Cynulliad fod yn bresennol mewn cyfarfodydd o bell, annog ystod fwy amrywiol o ymgeiswyr ar gyfer etholiadau’r Cynulliad.

Arfer gorau rhyngwladol

12.   A oes enghreifftiau o fesurau a gyflwynwyd mewn gwledydd eraill sydd wedi gwella’n sylweddol gynrychiolaeth seneddol grwpiau a dangynrychiolir?

Gweithredu newid

13.   A ddylid mynd ar drywydd mesurau gwirfoddol i annog mwy o ymgeiswyr o grwpiau a dangynrychiolir i gael eu dewis a’u hethol cyn datblygu mesurau deddfwriaethol?

14.   Pa fesurau gwirfoddol neu ddeddfwriaethol i annog Cynulliad mwy amrywiol i gael ei ethol fyddai'n cael yr effaith fwyaf, a pha fesurau y dylid eu blaenoriaethu?